|
> Janet Hay > Cyfarwyddwr Gweithredol
Yn gyd-sefydlwr 4Ward Development, mae gan Janet dros 37 mlynedd o brofiad mewn HR a datblygiad personél . Wedi treulio 15 mlynedd fel Cyfarwyddwr HR i ddau gwmni rhyngwladol adnabyddus, cychwynodd Janet gwmni ymgynghori ar ei liwt ei hun ym 1995 gan sefydlu rhestr cleientiaid yn gyflym oedd yn cynnwys BBC Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae wedi goruchwylio sawl prosiect HR llwyddiannus gyda gweithluoedd sylweddol, ac ymysg ei chyrraeddiadau nodedig mae gweithredu rhaglen datblygu rheolwyr ar gyfer 30 o uwch reolwyr BBC Cymru gafodd ei ddefnyddio wedyn ledled y DU oherwydd ei lwyddiant.
Mae meysydd arbenigol Janet yn cynnwys cyfraith ddiwydiannol, rheoli perfformiad, deddfwriaeth y GE, cyfarwyddebau amser gweithio ac iechyd a diogelwch. Mae hi hefyd yn Aelod o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Ers iddi sefydlu 4ward Development, gan gadw ei holl gyn-gleientiaid, mae Janet wedi darparu gwaith HR yn allanol i gleientiaid newydd gan gynnwys Magstim, sy'n arloeswyr mewn teclynau ysgogi a monitro nerfau, a'r arbenigwyr morol Harris Pye.
Mae Jan yn fam a mam-gu ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau darllen, cerddoriaeth a threulio amser gyda'i theulu.
|
|
 |
Meddwl Ymlaen: “Rwy'n credu mewn rhoi cyngor diffuant i’m cleientiaid, heb jargon er mwyn darparu datrysiadau ymarferol sy’n gweithio. Rwy’n credu mai pobl yw prif ased unrhyw sefydliad a bod buddsoddi mewn rheoli eich pobl yn effeithiol a’u helpu i ddatblygu i eithaf eu gallu yn beth buddiol iawn.”
|
 |
|